|
Mae David
Lyndon yn actor ac ymarferwr drama gyda gyrfa rhyngwladol yn y celfyddyau
perfformio.
Fe'i hyfforddwyd
ym Mhrifysgol Birmingham
a buodd hefyd yn aelod
blaenllaw o Gwmni Theatr Ieuenctid y Deyrnas Unedig am sawl tymor.
Ar y llwyfan
brofessiynol,
mae David wedi chwarae Gerry yn Dancing at Lughnasa (Theatr y
New Vic, Stoke); Boone yn Whistle Down the Wind (taith
genedlaethol); Danny yn Dreaming Amelia (Hijinx Theatre);
Frank’n’Furter yn The Rocky Horror Show (Casino de Paris a Teatro
Nuovo, Milan); Konstantin yn The Seagull, Luigi yn
Can’t Pay? Won’t Pay! a Bassanio yn The Merchant of Venice
(Theatr y Swan,
Caerwrangon); Sky Masterson yn Guys
& Dolls,
Oberon yn A Midsummer Night’s Dream a The Dentist yn
Little Shop of Horrors (Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth); Victor
yn Yerma (Battersea Arts), Jaques yn As You Like It
(Castell Dudley); Topper yn Scrooge (taith genedlaethol);
Plebeian yn Julius Caesar (RSC, Barbican) a France yn
King Lear (Clwyd Theatr Cymru).
Ymddangosiadau y 'West End' yn cynnwys
Aspects of Love (Theatr Y Tywysog Cymru) a The Hired Man
(Theatr y Palas). Ym myd y pantomeim, mae e wedi chwarae Prince Charming
yn rhy aml i'w chyfrif!
Mae David
yn gweithio yn Gymraeg ac yn Saesneg ac mae ei
waith
teledu yn cynnwys y
cymeriad cyfredol Fenner yn Pobol y Cwm a The Man in
Hidden, yn ogystal â rhannau mewn Iechyd Da a Darn o Dir.
Darparodd hefyd yr adroddiad am sawl pennod y cyfres poblogaidd Five Days
in ... i BBC2W. Ar y llwyfan
Gymraeg
cafodd ganmoliaeth
uchel am ei bortread o'r diwygiwr Evan
Roberts yn y sioe gerdd mawr Hen Rebel i Theatr Genedlaethol Cymru.
Yn y maes academaidd,
mae
David wedi ennill ddoethuriaeth
mewn hyfforddiant actorion a
bu'n ddarlithydd gwadd mewn sawl coleg a phrifysgol. Mae e’n frodor o Lanelli.
|
 |
|